Beth sydd yna i’w wneud?
Gall disgyblion ymgysylltu’n weithredol â’r stori wrth iddynt ei phrofi trwy amrywiaeth o arddangosfeydd, arddangosion a gweithgareddau amlgyfrwng a rhyngweithiol.
Os ydych chi am ddod â hanes, addysg grefyddol a’r iaith Gymraeg yn fyw i’ch disgyblion, archebwch ymweliad grŵp i Ganolfan Pererin Mary Jones. Mae’r adeilad rhestredig Gradd 2 wedi ei adnewyddu, y maes chwarae a’r ardal bicnic ar gyrion Llyn Tegid yn lleoliad perffaith i ddisgyblion ddysgu wrth gael digon o hwyl. Gall disgyblion hefyd weld pot inc Thomas Charles ac ymweld â’i fedd.
Gall grwpiau ysgol o bob oed ddysgu am stori Mary Jones, hanes y Beibl yng Nghymru, y Beibl ei hun ac effaith gwaith Cymdeithas y Beibl ar draws y byd. Gellir darparu ymweliadau Cymraeg a Saesneg. Gellir lunio ymweliadau o amgylch y cwricwlwm ar gyfer hanes, y Gymraeg ac Addysg Grefyddol. Mae disgyblion yn cwblhau llyfryn gwaith yn seiliedig ar yr arddangosfa yn ystod eu hymweliad yn ogystal.
Y Cwricwlwm
Ymdrinnir ag ystod o bynciau gwahanol yn ystod yr ymweliad:
- Cymraeg, e.e. gwybodaeth am William Morgan yn cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg a’r Beibl yn cael ei ddefnyddio fel ffordd o helpu pobl i ddysgu darllen
- Hanes, e.e. mae hanesion bywyd Mary Jones, Thomas Charles a William Morgan yn rhan bwysig o hanes Cymru
- AG, e.e. dylanwad ac effaith y Beibl yng Nghymru a'r byd
- Daearyddiaeth, e.e. safleoedd crefyddol arwyddocaol yng Nghymru a ledled y byd
- Mathemateg, e.e. rhoi dyddiadau amrywiol mewn trefn
Yr agweddau ymarferol
Yr uchafswm a awgrymir o blant yw 35. Fodd bynnag, os yw eich grŵp yn fwy, cysylltwch â ni i weld sut y gallwn ddarparu ar eich cyfer.
Mae gennym ffurflen asesu risg generig ar gyfer grwpiau ysgol. Cysylltwch â ni am gopi a'i gwblhau cyn eich ymweliad.
Y gost yw £2.50 y plentyn, heb unrhyw dâl i athrawon. Bydd gostyngiad o ddeg y cant yn berthnasol i grwpiau o bymtheg neu fwy o blant.
Oes. Gall plant dynnu lluniau, fideo a sain; mae hawlfraint ar y deunydd o fewn y ganolfan yn aros gyda Chymdeithas y Beibl.
Cysylltwch â’n Swyddog Addysg, Nerys Siddall, ar 01678 521877 neu drwy e-bost [email protected]
Os yw'n bwrw glaw, dewch â dillad glaw ac esgidiau addas. Mae'r maes parcio a'r caffi o fewn dwy funud i gerdded o'r ganolfan.
Mae swyddogion cymorth cyntaf cymwys ar gael pan fydd y ganolfan ar agor.
- Mae siop fechan yn y ganolfan lle gallwch brynu llyfrau a chofroddion
- Mae man chwarae ar y safle
- Digon o doiledau
- Mynediad i Lyn Tegid
Sylwch y dylai disgyblion ddod â'u pecynnau bwyd eu hunain.
Mae mynediad i gadeiriau olwyn i bob man yn y ganolfan a’r caffi. Gweler ein datganiad hygyrchedd a chysylltwch â ni’n uniongyrchol os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach.
Croesewir ymweliadau ysgol trwy drefniant ymlaen llaw ar unrhyw adeg o’r flwyddyn.
Am oriau ymweld cyffredinol, cliciwch yma.
Ymweliad arferol â Chanolfan Pererin Mary Jones
Mae'r ymweliad yn dechrau gyda chroeso cynnes gan aelod o staff ar ôl i'ch bws gyrraedd.
Mae'r disgyblion yn cerdded drwy'r fynwent i Ganolfan Pererin Mary Jones, heibio bedd Thomas Charles.
Yng Nghanolfan Pererin Mary Jones, darperir llyfr gwaith i’r disgyblion ei gwblhau wrth iddynt gasglu gwybodaeth o’r arddangosfeydd rhyngweithiol, yr arddangosion a’r fideos.
Mae’r llyfr gwaith yn canolbwyntio ar Mary Jones, y Beibl ac effaith y Beibl ledled y byd.
Bydd aelod o staff Canolfan Pererin Mary Jones yn aros gyda’r plant drwy gydol yr ymweliad.
Ar ôl yr arddangosfa, caiff y disgyblion gyfle i drafod a myfyrio ar eu hymweliad.
Os yw grwpiau ysgol wedi dod â phecyn bwyd, gallant ddefnyddio ein byrddau picnic a mwynhau golygfa hyfryd o Lyn Tegid.
Mae diodydd, byrbrydau, siocled a hufen iâ ar gael i’w prynu yng Nghaffi Pererin.
Mae cyfle hefyd i fwynhau’r ardal chwarae yn ystod yr ymweliad.
Cyfleoedd pellach
Rydym yn hapus i gysylltu â mannau eraill yn Y Bala sydd â chysylltiad â Thomas Charles a threfnu ymweliadau ychwanegol a fydd yn cyfoethogi eich taith ymhellach. Er enghraifft, gallwch ymweld â cherflun Thomas Charles y tu allan i Gapel Tegid yn ogystal â'i gyn gartref, lle mae'r sêff a ddefnyddiodd i storio Beiblau yn dal i fodoli.