Beth yw taith Mary Jones?

Lawr lwythwch llyfryn Taith Mary Jones

Mae'r llyfryn yn cynnwys fersiynau Cymraeg a Saesneg. Nid oes teithiau tywys ar gael ar hyn o bryd ond cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth am y llwybr gan gynnwys lleoedd lleol i aros a mannau o ddiddordeb ar hyd y daith.

Lawr lwythwch llyfryn Taith Mary Jones

1. Llanfihangel y Pennant i Minffordd (5.2 milltir) 

Gan ddechrau wrth adfeilion Tŷ’n-y-Ddôl, lle’r oedd Mary Jones yn byw, mae’r rhan hon yn mynd â chi drwy gwm prydferth Cwm Llan. Byddwch yn mynd heibio i Gastell y Bere hanesyddol ac yn mwynhau gweld fioledau gwyllt a mulfrain yn nythu yng Nghraig yr Aderyn. Daw'r rhan i ben ym maes parcio Dôl Idris ym Minffordd. 

2. Minffordd i Brithdir (6 milltir) 

Mae’r darn hwn yn dringo trwy Gwmrhwyddfor ac yn cynnig golygfeydd godidog o Gadair Idris a Llyn Tal-y-Llyn. Wrth fynd trwy goetiroedd derw a thir fferm, bydd cerddwyr yn croesi rhaeadrau ac yn dilyn llwybrau hanesyddol cyn cyrraedd Brithdir. 

3. Brithdir i Ddolfeili (5.25 milltir) 

O'r Brithdir, mae'r llwybr yn dilyn llwybrau cefn gwlad a ffyrdd tawel, gan gynnig golygfeydd o Aber Afon Mawddach. Mae’r rhan hon yn gyfoethog mewn harddwch naturiol, gyda choedwigoedd clychau’r gog yn y gwanwyn a golygfeydd panoramig o Foel Offrwm a Rhobell Fawr. 

4. Dolfeili i Lanuwchllyn (6.25 milltir) 

Mae tirwedd fwy agored yn nodweddu’r rhan hon, sy’n arwain cerddwyr heibio Llyn Tegid. Mae’r llwybr yn cynnwys traciau fferm traddodiadol a golygfeydd godidog o’r llyn cyn i chi gyrraedd Llanuwchllyn. 

5. Llanuwchllyn i'r Bala (5.5 milltir) 

Mae'r rhan olaf yn dilyn glannau Llyn Tegid, yn arwain i'r Bala. Mae cerddwyr yn mynd trwy Lanycil, safle o dreftadaeth Gristnogol ers dros 1,500 o flynyddoedd, cyn cyrraedd Canolfan Pererinion Mary Jones, lle daw’r daith i ben.